Ysbyty Singleton - un o'r rhai a allai gael ei heffeithio (Llun y Bwrdd Iechyd)
Fe allai streic ddeuddydd gan rai o staff bwrdd iechyd gael effaith ddifrifol ar lawdriniaethau yn ysbytai Abertawe a Bro Morgannwg.

Fe gyhoeddodd undeb Unioson y bydd streic yn cael ei chynnal yr wythnos nesa’  yn dilyn anghydfod hir dros lefelau cyflog.

Fe fydd streic gweithwyr unedau sterileiddio a diheintio yn digwydd rhwng Chwefror 22 a Chwefror 23 ac mae’r undeb wedi rhybuddio y gallai gael effaith “ddifrifol” ar lawdriniaethau sydd heb fod yn rhai brys.

Galwad y gweithwyr

Mae’r gweithwyr yn galw am gael eu talu’r un faint â gweithwyr tebyg mewn byrddau eraill yng Nghymru gan honni bod y gwahaniaeth mewn rhai achosion yn gallu bod bron cymaint â £1 yr awr.

Roedd streic wedi’i threfnu ar gyfer dechrau’r mis ond fe gafodd ei gohirio er mwyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gael cyfle i ystyried cynnig y gweithwyr.

“Mae’r ‘fargen resymol’ a gafodd ei chynnig gan y Bwrdd Iechyd yn parhau £1,900 yn llai nag y mae gweithwyr â’r un swydd a chyfrifoldebau yn ennill mewn byrddau iechyd eraill,” meddai trefnydd rhanbarthol UNISON, Mark Turner.

“Mae gweithwyr unedau sterileiddio yn teimlo fel bod y Bwrdd wedi eu twyllo a’r cyfan y maen nhw eisiau yw derbyn y tâl y maen nhw yn ei haeddu.”

  • Fe allai’r streic effeithio ar lawdriniaethau yn ysbytai Abertawe, Castell Nedd Port Talboit a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Mae Golwg360 yn ceisio cael ymateb gan y Bwrdd.