Ken Skates - galw ar Lywodraeth Prydain (Llun Cynulliad)
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda chyfres o fuddsoddiadau i helpu gweithfeydd dur cwmni Tata, meddai Ysgrifennydd yr Economi.

Yn dilyn pleidlais y gweithwyr i dderbyn gostyngiad pensiwn er mwyn achub 8,000 o swyddi, fe ddywedodd Ken Skates y bydden nhw’n helpu gyda moderneiddio rhannau o’r gweithfeydd a gwella sgiliau gweithwyr.

Ond fe alwodd hefyd ar i Lywodraeth Prydain weithredu mewn nifer o feysydd gan gynnwys arian ar gyfer Ymchwil a Datblygu, torri cost ynni a sicrhau amodau ffafriol o dan y cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Llywodraeth Cymru’n cefnogi tair rhaglen fuddsoddi newydd, meddai Ken Skates wrth Radio Wales, gan gynnwys gwaith ynni.

Galw ar Lywodraeth Prydain

Ond roedd ganddo gyfres o alwadau ar Lywodraeth Prydain hefyd …

  • I sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru’n derbyn cyfran “sylweddol” o gyllideb £2 biliwn i gefnogi Ymchwil a Datblygu.
  • Fe fyddai Brexit yn cynnig bygythiadau a chyfleoedd, meddai, ond roedd sicrhau mynediad i farchnad ddur agored yn gwbl allweddol, meddai.
  • Gyda chwymp yng ngwerth y bunt yn ei gwneud hi’n haws allforio ond yn ddrutach i brynu deunyddiau, fe alwodd ar Lywodraeth Prydain i sicrhau sefydlogrwydd.