Llun Ben Birchall/PA
Mae gweithwyr a gwleidyddion yn galw ar gwmni dur Tata i gadw at eu haddewidion i fuddsoddi yn y diwydiant, gan gynnwys gwario £1 biliwn ar waith Port Talbot.

Mae yna groeso gofalus wedi bod i bleidlais gweithwyr y cwmni i dderbyn pecyn pensiynau salach er mwyn sicrhau dyfodol gweithfeydd.

Ond mae’r undebau’n parhau i dynnu sylw at amheuon hefyd – mae angen i’r cwmni wneud hyn-a-hyn o elw i sicrhau’r buddsoddiad, fe fydd angen i’r pecyn pensiwn gael ei ddilysu ac addo “trio” sicrhau pob swydd y mae Tata.

Mae awgrym hefyd y gallai’r cwmni o India werthu’r gweithfeydd Prydeinig i gwmni arall ThyssenKrupp ac mae stori ym mhapur y Financial Times heddiw yn awgrymu bod brwydr ffyrnig yn digwydd tros ddyfodol Tata.

Yr her

Roedd tri chwarter y gweithwyr wedi pleidleisio i newid y cynllun pensiwn ar ôl i’r cwmni ddweud bod hynny’n amod ar barhau i gefnogi’r gweithfeydd.

Ond, er mwyn ei achub, fe fydd rhaid i’r cynllun gael ei dderbyn gan Lywodraeth Prydain yn rhan o’r Gronfa Diogelu Pensiynau – y PPF – ac, er mwyn hynny, fe fydd rhaid i’r cwmni ddangos ei fod yn gallu talu ei ffordd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Tata y byddan nhw’n parhau i weithio gyda’r llywodraethau a’r undebau i sicrhau dyfodol y gweithfeydd ac 8,000 o swyddi.