Ysgol Gyfun Maesteg (Randomperson 2010 CCA 3.0)
Mae cwest wedi clywed am deimladau athro ar ôl iddo yrru tros fachgen 15 oed y tu allan i’w ysgol.
Fe ddarllenwyd datganiad ar ran yr athro ymarfer corff, Christopher Brooks, yn dweud fel yr oedd wedi gweddïo mai bag ysgol, nid plentyn, oedd o dan yr olwynion.
Mae tystion wedi dweud wrth y cwest ei bod yn anrhefn y tu allan i Ysgol Gyfun Maesteg pan oedd y plant yn gadael a bod hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.
Un bachgen yn marw
Fe ddywedodd Christopher Brooks ei fod yn gyrru bechgyn i gêm rygbi ar ôl ysgol pan redodd dau fachgen o flaen y bws mini.
Roedd wedi gweld un bachgen o gornel ei lygad a chlywed clec ac wedyn clywed ail glec wrth daro’r ail – fe fu farw Ashley Talbot, 15 oed, yn ddiweddarach.
Roedd yr athro wedi brecio’n galed, meddai, ond doedd dim digon o amser.
Datganiad
Doedd dim rhaid i Christopher Brooks roi tystiolaeth lafar i’r cwest am nad oedd dadl am gynnwys y datganiad.
Ynghynt, roedd gyrrwr bws wedi awgrymu bod damwain yn bownd o ddigwydd ryw bryd ar y ffordd y tu allan i’r ysgol.