Y Gweinidog tros yr Iaith, Alun Davies, a wnaeth y cyhoeddiad - roedd y strategaeth yn gweithio, meddai (Llun Cynulliad)
Mae dau o fudiadau Cymru wedi croesawu hwb ychwanegol gan Lywodraeth Cymru heddiw i gynllun sy’n annog rhieni i siarad Cymraeg â’u plant.Bwriad y £225,000 ychwanegol yw galluogi’r Mudiad Meithrin i ddatblygu’r fenter ‘Cymraeg i Blant’ ar draws Cymru, wedi i’r rhaglen ddisodli cynllun Twf y llynedd.

Roedd yna feirniadaeth wedi bod bryd hynny am fod y gwaith wedi’i gyfyngu i rai ardaloedd ac roedd Cymdeithas yr Iaith yn feirniadol o leihad o £200,000 yn y gyllideb rhwng y ddau gynllun.

Bellach, mae’r Gymdeithas wedi croesawu’r newid meddwl.

Ymestyn y gwaith

Ar hyn o bryd, dim ond yn ardaleodd 14 o’r 22 cyngor sir y mae’r rhaglen newydd yn gweithredu ond y bwriad yn awr yw ymestyn y gwaith i;r gweddill.

“Rydyn ni’n hynod o falch ein bod ni’n gallu cyflwyno ‘Cymraeg i Blant’ i bob rhan o Gymru ac yn edrych ymlaen at annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio a throsglwyddo’r iaith ar yr aelwyd,” meddai Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Gwenllian Lansdown Davies.

Roedd wedi bod yn destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn rhai siroedd, yn ôl Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Toni Schiavone. “R’yn ni’n falch fod y Gweinidog wedi penderfynu adfer y gwasanaethau pwysig hyn,” meddai.