Ashley Talbot (Llun yr Heddlu)
Mae cwest i farwolaeth bachgen 15 oed a gafodd ei daro gan fws tu allan i’w ysgol uwchradd wedi clywed bod natur y ffordd a’r traffig y tu allan i’r ysgol yn “gofyn am ddamwain”.

Bu Hedley Williams yn gyrru bysiau i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maesteg pan fu farw Ashley Talbot yn 2014, a disgrifiodd fel y byddai plant yn aml yn cerdded a rhedeg rhwng y bysiau ac ar y ffordd.

“Ro’n i wastad yn meddwl ei bod hi’n ddamwain oedd ar ddigwydd,” meddai’r gyrrwr wrth Lys y Crwner Aberdâr heddiw, gan ddweud iddo godi’i bryderon droeon ag athrawon.

Bu farw Ashley Daniel Talbot ar Ragfyr 10, 2014 ar ôl rhedeg i lwybr bws mini oedd yn cael ei yrru gan athro addysg gorfforol yr ysgol, sef Christopher Brooks.

Cyflymder

Doedd dim posib dweud pa gyflymder y byddai’r cerbyd wedi bod yn teithio, ond dywedodd un o gwnstabliaid yr heddlu y gallai’r bws fod yn teithio ar gyflymder o rhwng 14 ac 17 milltir yr awr cyn y ddamwain.

“Mae’n gwbl bosib y byddai blaen yr olwyn wedi mynd dros y dioddefwr hyd yn oed ar gyflymder is,” ychwanegodd y Cwnstabl Christopher Street a fu’n cynnal ymchwiliadau fforensig.

Polisïau diogelwch

Clywodd y llys ddoe gan ddisgyblion eraill o’r ysgol gydag un yn dweud y byddai achosion tebyg “yn digwydd bron bob dydd”.

Er hyn, clywodd y llys heddiw fod yr ysgol wedi mabwysiadu polisïau diogelwch llymach erbyn hyn, gan gynnwys ehangu safleoedd aros bysiau a rhwystro cerbydau rhag symud rhwng 2.55 a 3.10 y prynhawn.

Mae’r cwest yn parhau.