Phillip Pullman yn arwyddo un o'i lyfrau (Adrian Hon CCA2.0)
Mae un o awduron pobol ifanc mwya’ poblogaidd y byd wedi datgelu ei fod ar fin dechrau cyhoeddi trioleg newydd o nofelau.

Ac yntau’n rhoi peth o’r clod am ei lwyddiant i’w gyfnod yn Ysgol Ardudwy Harlech fe gyhoeddodd Philip Pullman y bydd The Book Of Dust yn ymddangos ym mis Hydref, a hynny 17 mlynedd ers ei nofel ddiwetha’.

Roedd honno’n cwblhau’r drioleg His Dark Materials sydd wedi’i chyfieithu i 40 o ieithoedd ac wedi gwerthu mwy nag 17 miliwn o gopïau.

Yn ôl yr awdur, fe fydd y nofel newydd yn rhan o drioleg ei hun gan ddilyn stori’r un cymeriad ag yn His Dark Materials, sef ‘Lyra Belacqua’.

‘Aros yn amyneddgar’

Mae’r awdur sy’n wreiddiol o Norwich ond a fu’n astudio yn Ysgol Ardudwy Harlech ddiwedd yr 1950au wedi datgelu fod y nofel wedi’i gosod ddeng mlynedd cyn nofel gynta’r gyfres ddiwethaf.

“Roeddwn i’n gwybod oddi wrth y llythyron a’r negeseuon trydar fod fy narllenwyr wedi bod yn aros yn amyneddgar am The Book Of Dust ers amser hir,” meddai Philip Pullman.

“Ro’n i wastad eisiau dweud y stori o sut yr aeth ‘Lyra’ i fyw yng Ngholeg Jordan ac, o feddwl am y peth, ddes i ar draws stori hir yn dechrau pan oedd hi’n faban ac a fydd yn gorffen pan fydd hi’n oedolyn,” meddai wedyn.

Diolch

Mae Philip Pullman wedi diolch sawl tro i Ardudwy ac yn arbennig i’w athrawes Saesneg yno, Edith Jones.

Roedd wedi symud i fyw i ardal Harlech ar ôl i’w lysdad gael gwaith yn RAF Llanbedr.

Mae’r gyfres gyntaf, His Dark Materials, yn cael ei haddasu ar hyn o bryd ar gyfer BBC1, ac mae eisoes wedi’i haddasu i’r theatr yn 2004 ac i ffilm yn 2007, sef The Golden Compass gyda Nicole Kidman a Daniel Craig.