Mynedfa canolcan ymchwil Cancer Research UK yng Nghaergrawnt (cmglee CCA 3.0)
Mae angen gweithredu ar unwaith i gynyddu gallu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i drin canser yn gynnar, meddai elusen.

Roedd y ffigurau diweddara’ gan Lywodraeth Cymru’n dangos unwaith eto fod targedi’n cael eu methu a hynny’n peryglu llwyddiant triniaeth, meddai Cancer Research UK.

“Mae’n hollbwysig fod cleifion canser yn derbyn diagnosis cynnar ac yn cael eu trin yn gyflym, gan sicrhau tebygrwydd uwch o driniaeth lwyddiannus,” meddai Uwch Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus yr elusen, Gregor McNie.

“Mae’r galw uchel a chynyddol am brofion canser yn golygu ei bod yn angenrheidiol cynyddu’r gallu i gynnal profion endoscopi, lluniau a phatholeg cyn gynted ac mor effeithiol â phosib.”

Y ffeithiau

Mae Adroddiad Canserl Blynyuddol y Llywodraeth ar gyfer 2016 yn dnagos bod y Gwasanaeth Iechyd wedi methu eto i gyrraedd y targed ar gyfer trin pobol â chanser yn brydlon

Fe ddylai fod o leiaf 95% o gleifion yn derbyn triniaeth am ganser o fewn 62 diwrnod ar ôl i feddyg teulu ddod o hyd i symptomau ond, ar hyn o bryd, dim ond 86.1% sydd yn dechrau derbyn triniaeth o fewn y cyfnod yma.

Mae’r Llywodraeth wedi methu a chyrraedd y targed bob blwyddyn ers Mehefin 2008 ac roedd pob bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi methu â chyrraedd y targed rhwng Mawrth a Rhagfyr 2016.

Wrth gyhoeddi adroddiad heddiw, fe addawodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething y bydd yn gwella’r gwasanaeth canser yng Nghymru i fod “ymhlith y gorau yn Ewrop” a chyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi arian pellach mewn technoleg diagnosis.

Yn ôl Gregor McNie, mae’r ffigurau’n arwydd o wasanaeth sydd dan ormod o bwysau.