Y ddau feirniad a'r gwaith celf (llun cyhoeddusrwydd)
Mae artist o sir Gaerfyrddin wedi’i gwobrwyo am greu celf sy’n ymdrin ag iechyd meddwl wrth lunio cyfres o bedwar cwpan cerameg, gydag un ohonyn nhw wedi torri.

Bwriad Lindy Martin o Lansteffan oedd cyfleu bod o leiaf un ymhob pedwar o bobol y Deyrnas Unedig yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl rywbryd yn eu bywydau.

Hi hefyd yw’r artist cyntaf erioed i ennill y wobr newydd hon sydd wedi’i sefydlu er cof am brif seiciatrydd Ysbyty Dewi Sant Caerfyrdd9in yn yr 1970au a’r 1980au, sef Dr Huw Bevan Jones.

Bu Huw Bevan Jones hefyd ynghlwm â sefydlu’r elusen Arts Celf Gofal Celf yn 1987 am ei fod yn credu y gallai pobol sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl elwa o gydweithio ag artistiaid.

‘Straeon personol’

Mae Lindy Martin yn cipio gwobr o £1,000, plac i gofio’r diweddar Huw Bevan Jones a’r cyfle I gynnal arddangosfa unigol yn Oriel Bevan Jones yng Nghaerfyrddin rhwng mis Chwefror ac Ebrill 2018.

“Roeddem wrth ein boddau gyda’r ymateb i’r wobr gelf gyntaf er cof am fy niweddar dad, Dr Huw Bevan Jones, ac roeddem i gyd wedi’n cyffwrdd gan y straeon personol ac emosiynol y tu ôl i’r cofnodion,” meddai Rhys Bevan Jones, seiciatrydd sydd hefyd yn arbenigo ar gelf a iechyd meddwl.

Y beirniaid eraill oedd cyflwynydd sioe celfyddydau BBC Radio Wales, Nicola Heywood Thomas, a’r ceramegydd Peter Bodenham a ddewisodd waith Lindy Martin o blith 60 ymgais.