Gatiau i gofio Jeff Astle yn West Brom (Llun Parth Cyhoeddus)
Mae’r galw’n cynyddu am wahardd plant rhag penio’r bêl wrth chwarae pêl-droed, gydag astudiaeth a ddechreuodd yng Nghymru’n dangos problemau mawr i rai peldroedwyr proffesiynol.

Roedd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Iwan Roberts, ymhlith y rhai sydd wedi galw am waharddiad ac mae galwadau hefyd am ragor o ymchwil i’r mater.

Mae’r adroddiad newydd yn dangos bod pedwar allan o chwech chwaraewr proffesiynol yn yr astudiaeth wedi cael difrod i’w hymennydd, a nhwthau’n adnabyddus am eu gallu i benio.

Ymchwil yn Abertawe

Roedd y chwech ymhlith nifer o gyn-chwaraewyr proffesiynol a gafodd eu cyfeirio at uned o’r enw Y Gwasanaeth Seiciatrig Henoed yn Abertawe rhwng 1980 a 2010.

Fe gafodd ymchwiliadau post mortem eu cynnal arnyn nhw, a’r rheiny’n dangos bod gan y chwech olion o glefyd Alzheimer a bod olion difrod encephalopothi trawmatig cronig ar y pedwar.

Yn ôl yr arbenigwyr, fe allai hynny awgrymu bod penio’r bêl yn gyson tros gyfnod maith fod yn niweidio’r ymennydd.

‘Angen rhagor o waith’

Roedd y canlyniadau’n cyfiawnhau cynnal yr ymchwil, meddai’r arbenigwr oedd wedi dechrau’r gwaith yn Abertawe, Don Williams.

Ac yn ôl un o’r rhai y tu cefn i’r adroddiad, Huw Morris o Goleg Prifysgol Llundain, roedd y casgliadau’n sylfaen ar gyfer gwaith ymchwil pellach.

Ond fe rybuddiodd rhag cymryd yn ganiataol y byddai’r un math o broblemau’n codi i chwaraewyr amatur.

Yn y cyfamser, mae merch un o’r chwaraewyr enwoca’ i farw oherwydd dementia, Jeff Astle, wedi galw am ragor o ymchwil ar ymenyddion chwaraewyr pêl-droed ar ôl iddyn nhw farw.

Roedd Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhan o’r ymchwil.