Port Talbot - ei ddyfodol yn y fantol (Chris Shaw CCA2.0)
Fe fydd canlyniadau pleidlais heddiw yn cyfrannu’n sylweddol at benderfynu a fydd gweithfeydd dur Tata yng Nghymru’n cael eu hachub.
Mae aelodau tri undeb wedi bod yn pleidleisio ar gynigion y cwmni i newid amodau eu pensiynau – cam sy’n hanfodol, meddai’r cwmni, er mwyn diogelu’r diwydiant.
Fe fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi heddiw, gyda swyddogion y tri undeb yn argymell i’r gweithwyr dderbyn.
Y cynnig
Mae’r cynnig yn codi o drafferthion y diwydiant dur y llynedd gyda chwmni Tata o India yn bygwth cau’r gweithfeydd, sy’n cynnwys y gwaith mwya’ ym Mhort Talbot.
Bellach, mae Tata’n cynnig buddsoddi £1 biliwn yn y gweithfeydd ond ar yr amod eu bod yn cael gwared ar faich cynllun pensiwn y gweithwyr.
Fe fyddai hynny’n golygu symud y cynllun, sydd â baich o £15 biliwn, o dan adain y Gronfa Ddiogelu Penisynau – ond fe allai hynny olygu gostyngiad o 10% yn y buddiannau i’r gweithwyr.
Gwrthdaro
Mae gwleidyddion lleol wedi anghytuno tros y bleidlais, gyda llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price, yn dweud y dylai’r gweithwyr wrthod, oherwydd amheuon am rai o addewidion Tata.
Ond fe gafodd ei gondemnio gan aelod seneddol ardal Port Talbot, Stephen Kinnock, sy’n dweud na ddylai gwleidyddion ymyrryd yn y bleidlais.