Rebecca Evans
Mae cadeirydd ac is-gadeirydd Chwaraeon Cymru wedi cael eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn adolygiad o’r bwrdd.

Cafodd bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru ei ddiarddel dros dro ym mis Tachwedd yn dilyn penderfyniad a gafodd ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, Rebecca Evans, wrth y Senedd heddiw ei bod yn gwahardd Dr Paul Thomas ac Adele Baumgardt o’u gwaith ond ei bod yn adfer gweddill aelodau’r bwrdd.

Yn ogystal ag ymgynghori Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â chwaraeon yng Nghymru, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gyfrifol am weinyddu arian y Loteri.

Dywedodd Rebecca Evans bod y gwaharddiad gwreiddiol wedi dod ar ôl “methiant sylweddol yn  y berthynas” rhwng rhai aelodau o staff.

Heddiw, dywedodd bod gwahardd y ddau yn weithred “niwtral” a’i bod wedi gwahardd Dr Paul Thomas “er mwyn i broses ffurfiol a phriodol gael ei gynnal yn sgil cwynion rydw i wedi’u derbyn.”

Ychwanegodd ei bod hefyd wedi gwahardd Adele Baumgardt oherwydd “pryderon ar wahân sydd wedi codi.” Pwysleisiodd bod hyn eto yn weithred “niwtral” a bod y ddau wedi cael gwybod.

Mae Lawrence Conway wedi cael ei benodi yn gadeirydd dros dro.

Ychwanegodd Rebecca Evans bod codi’r gwaharddiad ar  fwrdd rheoli’r corff yn caniatáu iddyn nhw barhau gyda gwaith pwysig fel gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Dywedodd bod materion i’w datrys o hyd a’i bod am i’r adolygiad gael ei gwblhau mor fuan â phosib.