Carwyn Jones Llun: Senedd.tv
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cael ei gyhuddo o “wfftio galwadau i ymddiheuro” ar ôl i un o bwyllgorau’r Cynulliad feirniadu Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £3.4 miliwn mewn cwmni gweithgynhyrchu o Abertawe a aeth i’r wal yn ddiweddarach.

Bu Carwyn Jones yn ymateb i gwestiwn brys yn y Senedd prynhawn ma ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus feirniadu Llywodraeth Cymru am “arllwys arian i Kancoat y tu hwnt i’w diwydrwydd dyladwy ei hun.”

‘Achos busnes gwan’

Cafodd mwy na £3.4 miliwn o arian cyhoeddus ei fuddsoddi yn y cwmni oedd yn creu caniau tun, diod ac erosol ond a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Medi 2014.

O ganlyniad, gwnaed colledion o £1.5 miliwn i’r pwrs cyhoeddus gyda’r swm yn cynyddu.

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at adolygiad gafodd ei gyflwyno ynghynt yn amlygu bod achos busnes Kancoat yn “wan ac yn anghyson.”

Daeth i’r amlwg hefyd bod dwy ymdrech flaenorol i redeg cwmni tebyg ar y safle wedi methu.

“Sgandal”

Wrth siarad wedi cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies bod y mater yn adlewyrchu “agwedd laissez-faire Llywodraeth Lafur Cymru tuag at arian y trethdalwyr.”

Ychwanegodd ei fod yn “sgandal” bod cyn Weinidog yr Economi, Edwina Hart wedi anwybyddu rhybuddion i beidio buddsoddi yn y cwmni.

Ymatebodd Carwyn Jones drwy amddiffyn y penderfyniad i roi arian i Kancoat gan ychwanegu bod Edwina Hart wedi cael arweiniad gan arbenigwyr.

Dywedodd Andrew RT Davies bod ymateb Carwyn Jones i’r mater yn “siomedig ynghyd a’i amharodrwydd i ymddiheuro am y diweddaraf mewn cyfres hir o gamgymeriadau ariannol trychinebus gan weinidogion ei lywodraeth.”

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyflwyno 11 argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i nodi’n glir unrhyw benderfyniadau i fynd yn groes i gyngor yr adroddiad diwydrwydd dyladwy.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod yn croesawu’r adroddiad a’i bod wedi gwneud llawer o newidiadau ers hynny.