Pier Bae Colwyn
Mae cabinet Cyngor Conwy wedi cymeradwyo argymhelliad i ddatgymalu rhan o bier ym mae Colwyn.
Cafodd adroddiad brys ei chyflwyno i’r cabinet prynhawn yma yn awgrymu y dylai rhan o Bier Fictoria gael ei datgymalu yn fuan er diogelwch y cyhoedd.
Y pryder yw bod rhan ddiffygiol y strwythur yn peryglu gweddill y pier rhestredig Gradd II a heb weithredu yn syth gall strwythur y pier gael ei ddifrodi.
“Gan ystyried yr angen i gydbwyso cyfrifoldebau’r Awdurdod tuag at statws Rhestredig y Pier a diogelwch y cyhoedd, cytunodd y Cabinet y dylai’r gwaith argyfwng gael ei wneud er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach o’r strwythur rhestredig,” dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dilwyn Roberts.
Mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel pen yr adeiledd gymryd tua thair wythnos a bydd darnau o’r pier Fictorianaidd sydd o werth treftadaeth yn cael eu cadw a’u storio.
Bydd trefniadau diogelwch yn aros yn eu lle ac mae’r cyngor yn galw ar aelodau’r cyhoedd i gadw draw oddi wrth y strwythur.