Carwyn Jones a Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ddatgelu a fydd camau’n cael eu cymryd yn erbyn aelodau o’r Blaid Lafur wnaeth bleidleisio yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Gâr i droi ysgol Llangennech yn ysgol uniaith Gymraeg.

Yn sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog, aeth Leanne Wood yn ei blaen i ddweud fod rhai o’r cynghorwyr wedi “gweithio gydag Ukip” gan ddisgrifio’r sefyllfa yn Llangennech fel un “gwenwynig.”

“Mae wedi dod i’r amlwg i mi fod rhai o’r ymgeiswyr hynny yn dweud eu bod yn gweithio gydag UKIP, ac yn cytuno gyda datganiad yr arweinydd UKIP [ar ysgol Llangennech],” meddai Leanne Wood yn y Senedd.

Aeth yn ei blaen i ofyn; “Brif Weinidog, a yw hi’n dderbyniol i chi bod yna ymgeiswyr y Blaid Lafur yn gweithio’n agos gyda UKIP ar gwestiwn addysg cyfrwng Cymraeg ac a ydych yn cytuno â fi bod yr ymgyrch yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Gâr wedi dod yn wenwynig ac yn annerbyniol; ac a fyddech yn amlinellu beth fyddwch yn ei wneud ynglŷn ag aelodau’r Blaid Lafur sy’n gweithio gydag UKIP i danlinellu eich polisi iaith Gymraeg eich hunain?”

‘Mater i’r Cyngor egluro’

Mewn ymateb dywedodd Carwyn Jones ei fod yn cytuno fod y sefyllfa yn un wenwynig, ond mai mater i’r Cyngor i egluro yw hi, nid Llywodraeth Cymru.

“Mae rhai sylwadau wedi cael eu gwneud gan wleidyddion dw i ddim yn cytuno â nhw,” meddai Carwyn Jones.

“Dw i’n meddwl ei fod yn hollbwysig nawr peidio â chynhyrfu, a bod y gwenwyndra yn lleihau a bod y Cyngor yn gallu egluro i bobol Llangennech cymaint â maen nhw’n gallu beth yw ei bolisi…

“Nid ni ddylai fod yn egluro, y Cyngor ddylai egluro a dylwn ni fel Llywodraeth alluogi awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg fel ein bod ni’n gallu parhau i gefnogi’r iaith,” meddai gan gyfeirio at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cefndir

  • Ym mis Ionawr, fe wnaeth Cyngor Sir Gâr gymeradwyo argymhelliad i droi Ysgol Gynradd Llangennech o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg yn unig.
  • Fe ddaeth hi i’r amlwg fod pob aelod o’r grŵp Llafur, heblaw am dri ohonyn nhw, wedi gwrthwynebu’r cynllun hwnnw, gyda chynghorydd Plaid Cymru, Gareth Jones, yn galw am eglurhad ac ymyrraeth gan Carwyn Jones.