Ashley Talbot Llun: Heddlu De Cymru
Mae cwest i farwolaeth bachgen gafodd ei daro gan fws ar safle Ysgol Uwchradd Maesteg wedi dechrau clywed tystiolaeth gan oddeutu ugain o gyd-ddisgyblion.
Dywedodd un ferch ei bod wedi gweld tua phum achos o ddamweiniau agos rhwng cerbydau a phlant y tu allan i’r ysgol cyn hynny.
Ychwanegodd ei bod hi’n eistedd ar fws pan welodd Ashley Talbot, 15 oed, yn rhedeg allan rhwng dau fws oedd wedi parcio i lwybr bws mini arall a gâi ei yrru gan yr athro addysg gorfforol, Christopher Brooks.
Bu farw Ashley Daniel Talbot yn y fan a’r lle ar Ragfyr 10, 2014.
‘Rasio’
Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Aberdâr gan ddisgybl arall a ddywedodd ei fod yntau bron â chael ei daro ddwywaith yn yr un man ond nad oedd wedi sôn am hynny am fod achosion o’r fath “yn digwydd bron yn ddyddiol”.
Roedd tystiolaeth y disgyblion yn sôn iddynt weld Ashley Talbot a bachgen arall, a ddioddefodd mân anafiadau, yn “rasio” tuag at y bws er mwyn cael y sedd gefn.
‘Anawsterau cludiant’
Clywodd y cwest ddoe fod anawsterau cludiant yn yr ysgol gymharol newydd yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad.
Agorodd yr ysgol i 1,200 o ddisgyblion yn 2008, ac mae’r gwaith o adeiladu heolydd i mewn ac allan ohoni wedi bod yn mynd rhagddo ers hynny, yn ôl y cyn-brifathrawes Anne Rees.
Mae’r cwest yn parhau.