Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n buddsoddi £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i sicrhau bod cartrefi Cymru yn cael eu gwresogi’n effeithlon.

Mae’r rhaglen ‘Cartrefi Clyd’ wedi’i anelu at gartrefi incwm isel ynghyd â chartrefi mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae disgwyl y bydd 25,000 yn elwa o’r cynllun.

Mae’r rhaglen yn cynnwys uwchraddio boeleri, systemau gwresogi ac inswleiddio llofftydd i leihau biliau a’r effaith ar yr hinsawdd.

Cartrefi Clyd

Mae tair rhan i’r cynllun ‘Cartrefi Clyd’, sef Nest, Arbed ac Arbed EU3.

Mae ‘Nest’ yn cynnig cymorth i ddeiliaid cartrefi ar sut i leihau biliau ynni.

Fel rhan o ‘Arbed’, mae £20miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddarparu grantiau i awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ynni effeithlon yn eu cymunedau.

Ac mae ‘Arbed EU 3’ yn golygu £12miliwn arall fydd yn ysgogi oddeutu £24miliwn o fuddsoddiad o’r Undeb Ewropeaidd.