Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dynes ar draeth yn Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Newry, Caergybi tua 10.50yh nos Sul, Chwefror 12.

Nid yw’r ddynes wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol eto.

Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin yn amheus ar hyn o bryd, ac mae’r crwner wedi’i hysbysu.