Ashley Daniel Talbot (Llun: O'i gyfrif Facebook)
Mae’r cwest i farwolaeth bachgen 15 oed fu farw ar ôl cael ei daro gan fws mini’r ysgol lle’r oedd e’n ddisgybl, wedi clywed bod “ceir ym mhob man” ar safle’r ysgol ar y diwrnod y cafodd ei ladd.

Bu farw Ashley Daniel Talbot ar Ragfyr 10, 2014 pan gafodd e a bachgen arall eu taro ar safle Ysgol Uwchradd Maesteg gan y bws mini oedd yn cael ei yrru gan ei athro ymarfer corff, Christopher Brooks.

Roedd y ddau wedi bod yn rhedeg i ddal eu bws adref pan gawson nhw eu taro.

Yn ystod ei gwest, mae Ashley Talbot wedi cael ei ddisgrifio fel disgybl hoffus a phoblogaidd.

Mae’r cwest yn Aberdâr wedi clywed bod anawsterau cael cludiant i mewn ac allan o’r ysgol gymharol newydd yn y cyfnod cyn y gwrthdrawiad, a bod plant wedi bod yn ceisio symud i mewn ac allan o’r traffig er mwyn gadael yr ysgol.

Agorodd yr ysgol yn 2008, ac mae’r gwaith o adeiladu heolydd i mewn ac allan wedi bod yn mynd rhagddo ers hynny, yn ôl y cyn-brifathrawes Anne Carhart, sydd bellach yn cael ei hadnabod wrth yr enw Anne Rees.

Anfodlon

Dywedodd Anne Carhart: “Roedd anhrefn llwyr ar ddiwedd y dydd pan aethon ni i’r ysgol gyntaf, ac roedd hi’n anodd iawn oherwydd bod cymaint o draffig.”

Clywodd y cwest fod rota gan y staff ar gyfer dyletswyddau cludiant er mwyn sicrhau bod plant yn gadael y safle’n ddiogel.

Ond roedd “ceir wedi’u parcio ym mhob man”, meddai.

“Roedd diogelwch y plant yn sylfaenol,” ychwanegodd. “Cawson nhw [y staff] gais i fod yn wyliadwrus iawn a sicrhau bod eu llygaid ym mhob man i weld beth oedd yn digwydd.”

Ond cyfaddefodd nad oedd hi “erioed yn fodlon ar y system”, gan ychwanegu bod pryderon am yr heolydd o amgylch yr ysgol.

Clywodd y cwest fod Ashley Talbot, oedd heb groesi’r ffordd gan ddefnyddio’r groesfan, wedi marw yn y fan a’r lle o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w ben.

Mae disgwyl i’r cwest glywed gan hyd at 17 o ddisgyblion cyn dod i ddyfarniad.