Llun: Facebook Rheilffordd Ffestiniog
Mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri wedi cyrraedd brig rhestr o’r deg uchaf o drenau stêm Ewrop sy’n cynnig y profiad gorau i ymwelwyr.

Fe gurodd y rheilffordd, sy’n rhedeg am 40 milltir drwy Barc Cenedlaethol Eryri, reilffordd yr Achensee Cog yn Awstria sy’n rhedeg drwy fynyddoedd yr Alpau.

Ar y rhestr hefyd oedd rheilffyrdd yn y Swistir, Hwngari, Rwsia a’r Almaen, gyda rheilffordd Rhostir Gogledd Swydd Efrog yn Lloegr yn cael ei henwi ynghyd â Strathspey a Jacobite yn yr Alban.

Cafodd y rhestr ei llunio gan gwmni Great Rail Journeys sy’n arbenigo ar wyliau’n gysylltiedig â’r rheilffordd, ac roedd yn nodi “mae Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn uchafbwynt i unrhyw ymweliad â Chymru.”

“Mae’r rheilffordd yn rhedeg o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog ac yn mynd drwy gymoedd o ucheldiroedd Cymreig, trwy rostir tonnog a choedlannau coediog gwasgarog.”

Mae’r newyddion hwn yn ychwanegu at lwyddiant gogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr wedi iddi gael ei henwi’n bedwaredd rhanbarth gorau’r byd ar gyfer twristiaid yn 2017 yn y llawlyfr teithio Lonely Planet.