Llun: PA
Mae un o undebau amaethyddol Cymru wedi cyhuddo archfarchnad o greu “dryswch” wrth iddynt gynnal hyrwyddiad o gig oen o dramor dan y brand ‘Market deals’ sy’n eiddo i Morrisons.

Mae NFU Cymru yn cydnabod fod gan yr archfarchnad bolisi o werthu 100% o gig o wledydd Prydain fel rhan o gynnyrch eu brand eu hunain – Morrisons.

Ond, maen nhw wedi codi pryderon am hyrwyddiad diweddar, Market deals, sy’n cynnwys cig oen o Awstralia a Seland Newydd.

“Mae gennym bryderon hefyd fod y cynnyrch hwn sydd wedi cael eu mewnforio yn cael eu gosod ger negeseuon am gig Cymreig a Phrydeinig yn y man gwerthu, a allai adael siopwyr yn ddryslyd ynglŷn â tharddiad y cynnyrch maen nhw’n ei brynu,” meddai Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru.

‘Ymrwymo 100%’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr archfarchnad Morrisons, “fel sydd wedi bod erioed, drwy gydol y flwyddyn yn ein siopau, mae 100% o gig oen ffres dan frand Morrisons yn gig Prydeinig.

“Fel rydym wedi gwneud mewn blynyddoedd blaenorol, rydym yn cynnal dyrnaid o hyrwyddiadau nad sydd o dan y brand Morrisons rhwng y Nadolig a’r Pasg pan rydym yn gwerthu cyfran fach o gig oen nad sydd o Brydain,” meddai.

“Mae hyn oherwydd bod cyfran fawr o un toriad (i’r goes) yn cael ei werthu allan o gymharu â gweddill y carcas. Eto, mae’r wlad lle mae’n tarddu yn cael ei labelu’n glir ac mae’r cynnyrch yn cael ei werthu i ffwrdd o’r cownter,” ychwanegodd y llefarydd.

Galw am ‘fod yn glir’

Ychwanegodd Wyn Evans ar ran NFU eu bod yn “gwerthfawrogi fod Morrisons yn prynu tua 750,000 o ŵyn bob blwyddyn, ond yn ein barn ni, mae’n siom go iawn fod yr adwerthwr nawr yn ymddwyn i’r gwrthwyneb i’w hymrwymiad i brynwyr.

“Mae’n amlwg bod galw am gig oed PGI Cymreig a Phrydeinig, felly byddwn i’n annog Morrisons i fod yn glir i’w cwsmeriaid ynglŷn â beth yw eu hymrwymiadau.”