Llun: PA
Fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru’n cynyddu o £120 miliwn y flwyddyn erbyn 2028 o ganlyniad i gytundeb Fframwaith Ariannol Cymru.

Dyna gasgliad adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol.

Maen nhw’n darogan y bydd Cymru ar ei hennill o £600 miliwn yn ystod y degawd nesaf yn sgil y cytundeb.

Daeth y cytundeb rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru i rym fis Rhagfyr y llynedd.

Mae disgwyl i’r cytundeb wneud yn iawn am golledion disgwyliedig ar ôl i gyllideb Cymru gael ei haddasu yn sgil datganoli trethi.

Casgliadau

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad:

–          Bydd grant bloc Cymru’n cael ei dorri ar ôl i £2.5 biliwn mewn refeniw treth gael ei ddatganoli i Gymru. Bydd y ffigwr yn cael ei addasu’n flynyddol yn ôl y patrwm yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

–          Bydd y ffigwr yn cael ei addasu fesul band treth, sy’n cydnabod peryglon yn sgil lefelau isel o incwm yng Nghymru.

–          Gallai Cymru fod ar ei cholled o ran ei chyllideb yn sgil twf araf yn y boblogaeth, hyd yn oed pe bai refeniw y pen yn tyfu ar yr un gyfradd â honno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

–          Mae elfen o ddosbarthu arian yn ôl anghenion yn cael ei gyflwyno i Fformiwla Barnett yn sgil y cytundeb. Mae disgwyl i hyn wneud yn iawn am y twf araf yn y boblogaeth.

‘Bargen dda’ 

Mewn datganiad, dywedodd cydawdur yr adroddiad, Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mewn termau ariannol pur, mae’r cytundeb yn fargen dda i Lywodraeth Cymru, gyda llawer mwy o gyllid yn debygol o fod ar gael o ganlyniad i newidiadau yn ei chyllid grant bloc a gwariant cyfalaf ychwanegol o ganlyniad i gynnydd yn y pwerau benthyca.

“Fodd bynnag, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn colli allan os bydd y refeniw yn tyfu’n araf oherwydd twf poblogaeth araf Cymru, fe fydd hi’n fwy anodd asesu eu perfformiad o ran rheoli trethi.

“Fe fydd tryloywder a gwybodaeth gyllidebol ar refeniw datganoledig, y grant bloc, a’r addasiadau a wnaed ar gyfer datganoli treth yn hanfodol i hybu atebolrwydd cyllidol a chynorthwyo dealltwriaeth o newidiadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

“Yn yr un modd, dylai datganiadau gael eu darparu i drethdalwyr unigol yn datgan yn glir y trethi y maent wedi talu i lywodraethau Cymru a’r DU.”

‘Dim darpariaeth ar gyfer diweddaru asesiad o anghenion cymharol’

Ychwanegodd David Phillips o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a chydawdur yr adroddiad: “Er bod cynnwys elfen sy’n seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett yn rhywbeth i’w groesawu, nid yw’r cytundeb yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer diweddaru’r asesiad o anghenion cymharol yn y dyfodol.

“Hyd yn oed ar adeg ei gyflwyno bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar asesiad sydd eisoes yn ddeg oed.

“Gallai hyn greu tensiwn, os daw i’r amlwg fod anghenion cymharol Cymru’n newid, ac felly mae’r cytundeb yn annhebygol o roi terfyn ar y ddadl am fframwaith cyllidol Cymru.

“Gan edrych ar draws y DU gyfan, mae trefniadau cyllido datganoledig yn edrych yn gynyddol anghymesur ac ad hoc.

“Bydd gwahaniaethau sylweddol nawr yng ngraddfa a chyfansoddiad trethi datganoledig a threthi a gedwir yn ôl ar draws pob gwlad; yn y modd y caiff eu grantiau bloc eu pennu a’u haddasu dros amser; ac yng nghapasiti benthyca a rheoli cyllideb pob llywodraeth ddatganoledig.”