Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1 miliwn i hybu sgiliau cerddorol plant Cymru.
Byddan nhw’n sefydlu cronfa newydd, a’r gobaith yw y bydd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cyfrannu ati hefyd gyda’r nod o sefydlu Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.
Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cyfrannu’r £1 miliwn at y gronfa.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams ei bod hi’n gobeithio bod y buddsoddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru “o ddifri” am y cynllun.
Wrth gyfeirio at sefydlu gwaddol, dywedodd Kirsty Williams mewn datganiad: “Pe bai hyn yn digwydd yna rydym yn gobeithio gwneud y taliadau cyntaf o’r gwaddol yn 2020.”
‘Mewn peryg o gyfyngu’r cwricwlwm’
Wrth ymateb i’r buddsoddiad, dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbrân, Jaci Bates fod perygl, heb y buddsoddiad, y byddai “peryg o gyfyngu’r cwricwlwm”, a hynny am fod “yna gymaint o ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifyddeg”.
Mae nifer fawr o gynghorau Cymru wedi bod yn torri cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth ers 2008.
Y llynedd, cofnododd Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru eu nifer isaf erioed o geisiadau gan bobol ifanc i ymuno â nhw.
Ac fe rybuddiodd yr arweinydd Owain Arwel Hughes fis diwethaf na fyddai Cymru’n parhau’n genedl gerddorol heb ddatrys sefyllfa darpariaeth mewn ysgolion.
“Fe ddylai pawb gael yr un cyfle, heb amheuaeth o gwbl,” meddai.
‘Gofyn am weithredu positif’
Dywedodd Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mewn cyfnod heriol fel hyn mae gofyn am weithredu positif.
“Mae’n bwysicach nag erioed i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc.
“Mae’r gronfa newydd yn wahoddiad i bobl yn y sectorau cyhoeddus a’r sector breifat i ymuno â Llywodraeth Cymru i feithrin talent gerddorol ifanc.”