Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio’n dilyn marwolaeth dyn o ardal Wrecsam brynhawn ddoe.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i Ffordd Rhiwabon am oddeutu 10.20yb fore dydd Sul, 12 Chwefror yn dilyn pryderon am les dyn yn ei 30au.

Anafodd y dyn ei hun gyda chyllell, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.
Cafodd un plismon ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu ei fywyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eu bod nhw wedi cyfarfod â theulu’r dyn, a bod yr ymchwiliad yn parhau.