Mae dyn yn ei 30au wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â’r heddlu ger Wrecsam.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Johnstown am 10.19 y bore ma, yn dilyn adroddiadau bod y dyn yn ceisio lladd ei hun.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae plismon yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau, ond dydyn nhw ddim yn rhai difrifol.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae Ffordd Rhiwabon ynghau am y tro.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101.