Gareth Davies (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae mewnwr tîm rygbi Cymru, Gareth Davies wedi ymddiheuro ar ôl i’r papur newydd The Sun gyhoeddi lluniau sy’n ei ddangos yn ymladd yn Aberystwyth.

Mae lle i gredu bod y ffrwgwd â dau fownsar clwb nos wedi digwydd fis Awst y llynedd.

Ond cafodd lluniau o’r fideo ei gyhoeddi cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd neithiwr.

Mae’r lluniau’n dangos y chwaraewr yn dal esgid ac yn cwrso dyn.

Wrth ymddiheuro, dywedodd ei fod e “wedi ymateb yn y modd anghywir”.

Dywedodd ei fod e wedi gweithredu ar ôl i ddynes gael ei gwthio i’r llawr – mae llais dynes mewn fideo yn dweud: “Plis Gareth, byddi di’n colli dy swydd oherwydd hyn.”

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw wedi delio â’r digwyddiad yn fewnol, a’u bod nhw wedi ei “atgoffa o’i gyfrifoldeb”.