Liz Saville Roberts (Llun: Plaid Cymru)
Fe fydd adolygiad yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu a ddylid datgelu hanes rhywiol dioddefwyr trais yn ystod achosion llys.

Cafodd Bil Aelod Preifat ei gyflwyno gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts yn San Steffan yr wythnos diwethaf.

Dywedodd fod y gyfraith fel ag y mae hi yn “annigonol” er mwyn gwarchod dioddefwyr.

Daw’r adolygiad ar ôl i reithgor yn achos y pêl-droediwr Ched Evans glywed am hanes rhywiol y ddynes oedd wedi ei gyhuddo o’i threisio mewn gwesty.

Cafwyd ymosodwr Cymru’n ddieuog o dreisio fis Hydref y llynedd.

‘Anghyfiawn’

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’n “anghyfiawn” fod rhaid i ferched sydd wedi cael eu treisio orfod rhoi tystiolaeth am eu hanes rhywiol yn ystod achosion llys.

Fe fyddai deddfwriaeth newydd yn golygu na fyddai’n rhaid i ddioddefwyr orfod wynebu cael eu croesholi.

Mae profiad o’r fath yn “hollol anghyfiawn”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Mae deddfwriaeth sy’n gwarchod dioddefwyr eisoes yn bod yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia.

Dywedodd Liz Saville Roberts na ddylai dioddefwyr orfod “goddef y sarhad o gyhoeddi eu hanes rhywiol a’i ddefnyddio yn eu herbyn yn y llys”.

“Dydy hi ddim yn berthnasol i ymosodwr honedig a oedd rhywun wedi cydsynio i gael rhyw yn y gorffennol.”

Dywedodd fod y gyfraith fel ag y mae yn ei gwneud hi’n fwy anodd i ddioddefwyr adrodd am ymosodiadau.