Mae diffoddwyr tân yn parhau i geisio diffodd fflamau ar safle chwaraeon yng Nghwmbrân y bore ma.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De eu galw i The Football Factory ar ystad ddiwydiannol Avondale am 6.50pm neithiwr.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân.

Ar y safle, mae canolfan bêl-droed dan do, sy’n cynnwys nifer o gaeau ymarfer, a bar.

Mae’r staff wedi ymddiheuro ar Twitter am yr anghyfleustra i gwsmeriaid.