Carwyn Ellis
Bydd gigs, perfformiadau, gosodiadau celf a chystadlaethau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad heddiw er mwyn dathlu cerddoriaeth Cymraeg.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, er mwyn yw tynnu sylw at gerddoriaeth Gymraeg ac annog busnesau, sefydliadau a thafarnau i chwarae caneuon artistiaid Cymraeg.

Dyma’r ail dro i Ddydd Miwsig Cymru gael ei gynnal.

Digwyddiadau

Bydd perfformiadau heddiw gan Steve Eaves a Chris Jones yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen ac Atsain yn La Mancha yng Nghastell-nedd, a bydd ffilter ‘Snapchat’ arbenning yng nghanol Caerdydd ac yng Nghaernarfon.

Er mwyn dathlu 50 blynedd o gerddoriaeth gyfoes Cymraeg mae Syr Bryn Terfel, Huw Stephens, Gwenno a DJs Elan a Mari wedi rhyddhau rhestrau o’u hoff ganeuon Cymraeg.

Hefyd bydd cerddorion gan gynnwys Rhodri Brooks yn cyhoeddi cerddoriaeth i ddathlu’r diwrnod ac mae hyd yn oed sôn bydd Carwyn Ellis o’r band Colorama yn ymddangosiad  yng Nghwm Deri ar yr opera sebon Pobol y Cwm heno.

Gig Emporiwm Caerdydd

Dan arweiniad y cyflwynydd radio Huw Stephens mae gig am ddim yn cael ei chynnal yn Emporiwm y Castell yng Nghaerdydd lle bydd The Gentle Good, Adwaith, Roughion, ARGRPH, Chroma, a Mellt yn chwarae.

Bydd Bryn Fôn yn ymddangosiad arbennig yn y gig a chwarae set acwstig am 6.30 heno cyn perfformiad Eden yng Nghlwb Ifor Bach y brifddinas yn hwyrach ymlaen.

Mae aelod o’r band ARGRPH yn gweld gwerth Dydd Miwsig Cymru.

“Dw i’n meddwl ei fod yn beth da achos ei fod yn tynnu sylw pobol at gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig pobol sydd ddim yn gyfarwydd â cherddoriaeth yn yr iaith. Mae’n blatfform da ac yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig o’r gerddoriaeth ond yr iaith hefyd,” meddai Emyr Siôn Taylor.

Murluniau o gerddorion

Mae pedwar  murlun o gerddorion Cymreig wedi eu creu gan yr artist stryd o Gaerdydd, R.mer, er mwyn dathlu’r diwrnod.

Bydd murlun o Osian Candelas ar wal yn Y Galeri yng Nghaernarfon, Lisa Jên 9Bach ym Methesda, David R Edwards Datblygu yn Aberteifi a Gruff Rhys o’r Super Furries yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gwyn Eiddior, sydd wedi comisiynu’r murluniau yn arbenning ar gyfer Dydd Miwsig Cymru: “Roedd hi’n anodd iawn dewis yr artistiaid, gan fod yna gymaint o rai dylanwadol ym myd cerddoriaeth Gymraeg. Yn y diwedd, fe aethon ni am artistiaid o wahanol genres sydd dal yn rhyddhau miwsig heddiw, gan chwilio am rai gyda lluniau trawiadol i seilio’r murluniau arnynt.”