Mae dogfen wedi’i lansio heddiw gyda’r bwriad o sicrhau bod pobol â nam ar y synhwyrau yn derbyn y gwasanaeth orau posib.

Pwrpas y ddogfen sydd wedi ei pharatoi gan gorff Gweithredu Ar Golled Clyw Cymru ac RNIB Cymru yw ymgynghori gyda staff gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â sut i gynorthwyo pobol sy’n fyddar, sy’n colli eu clyw neu sy’n colli eu golwg i fyw bywydau annibynnol.

Cafodd y canllawiau eu hysgrifennu ar sail profiadau  18 o bobl o Gaerfyrddin, Blaenau Gwent, Wrecsam a Llanelli sydd â nam ar y synhwyrau, o ddefnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol.

Gwnaeth y prosiect dderbyn grant £144,000 Cydraddoldeb a Chynhwysiant gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu’r ymchwil.

Sicrhau’r gwasanaeth orau

“Mae’r rhan fwyaf o’r canllawiau a gynhwysir yn ein dogfen yn syml i’w rhoi ar waith, ond byddant yn gwneud yr holl wahaniaeth, megis cadw cofnod o golled clyw rhywun a rhoi ffyrdd gwahanol iddynt gysylltu, heblaw ar y ffôn,” meddai Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru.

“Gobeithiwn y bydd pob gweithiwr proffesiynol ym maes gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn dechrau defnyddio’n canllaw, er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi’r gwasanaeth i bobl fyddar, ddall a dall a byddar y maent yn ei haeddu.”