Paul Clement
Prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement sydd wedi ei ddewis yn Rheolwr y Mis yn Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer mis Ionawr.

Cafodd ei benodi ddechrau’r mis yn olynydd i’r Americanwr Bob Bradley, a barodd 85 o ddiwrnodau’n unig yn y swydd.

Roedd yr Elyrch ar waelod y tabl pan gafodd y Sais ei benodi, ond mae wedi llwyddo i’w codi nhw allan o’r safleoedd syrthio erbyn hyn.

Yn ystod mis Ionawr, fe gurodd Abertawe Lerpwl 3-2 yn Anfield a Southampton 2-1 yn Stadiwm y Liberty. Fe gollwyd dwy gêm hefyd, yn erbyn Arsenal a Manchester City.

Wrth ennill y wobr, llwyddodd Paul Clement i gael y blaen ar Ronald Koeman (Everton), Mauricio Pochettino (Spurs) a’r Cymro Mark Hughes (Stoke)a oedd hefyd yn y ras.

‘Cydnabyddiaeth’

Dywedodd Paul Clement ei fod “wedi synnu” o gael ei wobrwyo, yn enwedig gan fod Spurs yn ddiguro yn eu pum gêm gynghrair yn ystod y mis, rhediad sydd wedi eu codi nhw i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Lloegr.

“Roedd gan [Mauricio] Pochettino record dda iawn ym mis Ionawr, felly ro’n i wedi synnu braidd…

“Mewn ffordd dda, mae’n gydnabyddiaeth braf o’r gwaith mae pawb wedi ei wneud y mis yma – y chwaraewyr, y staff yn y cefndir ond hefyd y cefnogwyr sydd wedi cefnogi’r tîm ac sy’n dangos agwedd bositif iawn tuag at gefnogi’r tîm. Maen nhw wedi helpu’n fawr.”

Blwyddyn ers i Derby ei ddiswyddo

Flwyddyn a dau ddiwrnod yn ôl y cafodd Paul Clement ei ddiswyddo gan Derby County, a hynny ar ôl wyth mis yn y swydd.

Ar y pryd, dywedodd newyddiadurwr y Daily Mirror, John Cross fod Paul Clement wedi cael “trychineb llwyr” gyda’r clwb yn y Bencampwriaeth, er eu bod nhw’n dal yn bumed yn y tabl ar ôl rhediad o saith gêm heb fuddugoliaeth.

Wrth gyfeirio at y newyddiadurwr dan sylw, dywedodd Paul Clement: “O ie, dw i wedi cofio’r enw hwnnw. Peidiwch â phoeni am hynny!”

Yn ôl Paul Clement bydd y cychwyn calonogol yn ofer os na fydd yn llwyddo i gadw Abertawe yn y gynghrair.

“Bydda i’n cael fy marnu, dw i’n siŵr, ar ddiwedd mis Mai. Dyna dw i’n ymwybodol iawn ohono.

“Mae gen i ddipyn o waith i’w wneud. Mae’n braf ar hyn o bryd, ond fydd y wobr yn golygu dim os nad ydyn ni wedi cyflawni ein nod erbyn diwedd y tymor.”