Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i fyw bywyd iach er mwyn lleihau’r risg o ddioddef o ddementia pan yn hŷn.

Bydd yr ymgyrch Lleihau Risg Dementia – sydd wedi ei drefnu ar y cyd â Iechyd Cyhoeddus Cymru – yn dechrau gyda thaith 10 diwrnod.

Mae disgwyl i’r daith ymweld â Chanolfan Siopa Dewi Sant Caerdydd, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Siopa’r Quadrant yn Abertawe.

Fel rhan o’r ymgyrch mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno pum cam gallwn ddilyn er mwyn atal dementia pan yn hŷn, gan gynnwys osgoi yfed ac ysmygu ynghyd â cherdded cyson.

Mae ymchwil yn awgrymu bod cadw at arferion iach pan yn ifancach yn medru eich gwneud 60% yn llai tebygol o ddatblygu dementia.

“Mae’r risg o gael dementia’n cynyddu gydag oedran ac wrth i fwy a mwy o bobl fyw i fod yn hŷn, bydd y nifer o bobl fydd yn datblygu dementia hefyd yn cynyddu. Mae’r neges yn glir – paid ag aros; gwna fe heddiw i leihau dy risg,” meddai’r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evan.