Yr Hen Lyfrgell (Llun Parth Cyhoeddus)
Mae’r grŵp sy’n gyfrifol am y ganolfan Gymraeg yng nghanol Caerdydd yn dweud eu bod wedi cael cyfarfod “cefnogol” gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisi achub y fenter.

Mae’r Llywodraeth wedi addo cynnal arolwg annibynnol o weithredu’r ganolfan yn Yr Hen Lyfrgell er mwyn ceisio creu cynllun busnes newydd ar ei chyfer.

Fe ddywedodd Cadeirydd y Ganolfan, Huw Onllwyn Jones, wrth y BBC fod gweinidogion y Llywodraeth wedi dangos eu hymrwymiad i gefnogi’r ganolfan.

Y cenfdir

Roedd Yr Hen Lyfrgell yn un o gyfres o ganolfannau Cymraeg a gafodd eu sefydlu pan oedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gyfrifol am yr iaith.

Roedd wedi derbyn cefnogaeth o £400,000 er mwyn ei sefydlu yn yr adeilad yn yr Ais yng nghanol y ddinas.

Ddiwedd y llynedd, fe ddaeth yn glir fod yr Hen Lyfrgell mewn trafferthion wrth i’r caffi yno gau.

Yn ôl Huw Onllwyn Jones, roedd y cynllun busnes cynta’ yn “afrealistig” gyda’r disgwyliadau treth ar gyfer yr adeilad yn rhy uchel.