Yn Nghaerdydd y bydd yr ornest fory (Llun Golwg360)
Mae BBC Wales wedi gorfod rhoi’r gorau i ddangos hysbyseb ar gyfer gêm rygbi Cymru a Lloegr ar ôl cyhuddiadau o hiliaeth.

Roedd y ffilm fer yn dangos pobol yn ceisio ateb y cwestiwn “Beth sy’n dda am Loegr?” trwy edrych yn gwbl wag ar y camera.

Roedd pobol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cyhuddo’r Gorfforaeth o fod yn “wrth-Seisnig” wrth ddangos yr hysbyseb.

Roedd eraill yn dweud bod yr hysbyseb yn hiliol.

‘Ddim yn taro’r nodyn iawn’

Wrth gadarnhau eu bod wedi rhoi’r gorau i ddangos y ffilm, fe ddywedodd y BBC eu bod yn derbyn nad oedd yr hysbyseb yn taro’r “nodyn iawn”.

“Roedd yn rhan o gasgliad o gynnwys i hyrwyddo Pencampwriaeth y Chwe Gwlad lle’r oedd cefnogwyr rygbi go iawn, rhai angerddol, llawn cyffro yn siarad am yr ymrafael cyfeillgar rhwng y gwledydd sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

“Agwedd tafod yn y boch oedd hon, heb fwriad i dramgwyddo.”

Yn y gorffennol, mae’r BBC wedi amddiffyn cynnwys ar ôl cwynion am agweddau gwrth-Gymreig.