Mae dyfodol y capel a godwyd i goffau’r Pêr Ganiedydd mewn dwylo diogel, yn ôl gweinidog o ardal Llanymddyfri.

Tua phum mlynedd yn ôl, roedd cwmwl du yn bwrw’i gysgod dros y capel rhestredig Gradd II a godwyd yn 1886 ynghanol tref Llanymddyfri wrth i’r aelodaeth ddisgyn i lai na deg, a’r nifer yn mynd i’r gwasanaethau ar y Sul yn llai fyth.

Roedd pryder y byddai’n rhaid cau a gwerthu’r capel am fod costau cynnal a chadw’r lle yn sylweddol, a bu ymgyrch yn lleol tua 2012 i gadw’r lle ar agor.

Bellach mae gweinidog o Lanwrtyd, ond sy’n wreiddiol o America, Leonard Phelps, wedi cymryd awenau’r capel ac yn cynnal gwasanaethau wythnosol yno, yn Saesneg.

Fe lwyddodd y capel i sicrhau grantiau gan fudiadau fel Cronfa Eglwysi Cymru Sir Gaerfyrddin ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru i adnewyddu’r festri lle mae digwyddiadau’r gymuned yn cael eu cynnal yno.

Ac yn ôl Aled Lewis, pregethwr mewn capeli ar draws de Cymru, mae cyfeiriad a phwrpas i’r capel bellach.

“Mae’r adeilad ei hunan yn weledig ac yn amlwg iawn yn y dref i bawb sy’n mynd heibio,” meddai gan ddweud fod hynny’n cyfrannu at fwrlwm y dref wrth i ymwelwyr ddod i ymweld â’r capel.

“Y peth mwyaf cyffrous yw bod dal cyfarfodydd yn y capel,” meddai gan gydnabod fod cynnal a chadw’r adeilad yn “dipyn o her.”

Tröedigaeth

Mae Capel Coffa Williams Pantycelyn yn arwyddocaol i Aled Lewis, sy’n wreiddiol o Bumsaint ger Llanymddyfri, am reswm arall.

Fel William Williams, esboniodd Aled Lewis ei fod yntau wedi cael tröedigaeth at grefydd, fel y cafodd Pantycelyn dröedigaeth ar ôl gwrando ar un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd, Howel Harris, yn pregethu.

“Mae Williams Pantycelyn wedi defnyddio ei ddoniau i roi cyfle i Gristnogion a phobol ddod i nabod Iesu Grist … mewn ffordd sy’n berthnasol, ffordd newydd a ffordd sydd o’r galon,” meddai.

Mae Aled Lewis yn esbonio dyfodol y capel coffa, a’r hyn sy’n gyffredin rhyngddo yntau a William Williams Pantycelyn yn y fideo hwn…