Aelodau teulu Pantycelyn heddiw
Nid oes llawer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu i nodi tri chanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn, yn ôl disgynnydd yr emynydd sy’n parhau i fyw a ffermio’r fferm deuluol ger Llanymddyfri.

n ôl Cecil Williams, sy’n ffermio’r fferm ddefaid wrth droed y Bannau Brycheiniog, fe fu mwy o ddigwyddiadau i goffau’r emynydd adeg dau ganmlwyddiant ei farw yn 1991.

“Buodd tua 6,000 o bobol yma adeg hynny,” meddai Cecil Williams gan ddweud nad oes llawer o drefniadau ar y gweill hyd yn hyn eleni.

Ond mae’n bwysig cynnal y cof amdano, meddai’r gŵr sy’n chweched genhedlaeth i William Williams.

“Tra bod cofio fel hyn, mae pobol yn dod i wybod amdano. Fi ddim yn credu bod llawer o bobol yn y rygbi yn gwybod pwy sy wedi ysgrifennu’r emyn poblogaidd,” meddai gan gyfeirio at Guide me, O Thou Great Jehovah a’r llinellau adnabyddus “bread of heaven..”

Y fferm ‘yn saff’

Mae Cecil Williams yn cydnabod fod cadw’r hanes yn fyw ynghyd â chydbwyso’r gwaith fferm yn medru bod yn dipyn o her.

Mae yntau a’i wraig Cynthia yn dal i fyw ar yr hen aelwyd lle wnaethant fagu pedwar o blant, ac mae’r ffermwr yn ffyddiog y bydd y lle’n parhau yn nwylo’r teulu gyda’i fab, Aled, a’i ferch, Nerys adref yn ffermio.

“Fi’n credu eu bod nhw’n saff o’i gadw fe i fynd,” meddai wrth golwg360.

A does dim llawer wedi newid am y tŷ ers dyddiau Williams Pantycelyn, meddai, gyda’r tŷ’r union yr un maint, ond y ffenestri’n fwy erbyn hyn.

Yn y fideo hwn, mae’n sôn ychydig am hanes yr emynydd a sut mae pethau wedi newid erbyn heddiw…