Haydn Edwards
Cemegydd a chyn-brif weithredwr Coleg Menai sydd wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Fe fydd Dr Haydn E Edwards yn olynu Andrew Green, sydd yn dod i ddiwedd ei dymor gwasanaeth ddiwedd mis Mawrth.

“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae hyn yn glod i bawb sydd wedi bod yn ymwneud a’r gwaith,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r cyfrifoldebau newydd ymhen ychydig wythnosau gyda’r bwriad o ddatblygu’r gwaith ymhellach yn y blynyddoedd sydd i ddod”.

Ar ôl graddio mewn Cemeg a Ffisioleg ym Mhrifysgol Salford, gweithiodd mewn nifer o sefydliadau addysg uwch a phrifysgolion yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau a Siapan.

Yn ddiweddar, bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol gydag Estyn ac yn Ymddiriedolwr ac Is-lywydd Amgueddfa Cymru. Arweiniodd nifer o adolygiadau polisi i Lywodraeth Cymru gan gynnwys adolygiad o faes Cymraeg i Oedolion sydd wedi arwain at sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.