Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn ystod etholiadau yn parhau i fod yn llai na’r ddarpariaeth Saesneg, yn ôl adroddiad Comisiynydd y Gymraeg.

Mae Meri Huws yn dweud, er y bu gwelliant rhwng darpariaeth Etholiad Cyffredinol 2015 ac Etholiadau’r Cynulliad a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd 2016, roedd y ddarpariaeth Gymraeg o safon is na’r ddarpariaeth Saesneg.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod argaeledd ffurflenni Cymraeg yn annigonol, a’i bod hi’n anodd cael gafael ar ffurflenni yn yr iaith.

Roedd anghysondeb wrth gyhoeddi canlyniadau yn ddwyieithog ac yn ôl yr adroddiad nid oedd gwybodaeth gyffredinol ar gael yn Gymraeg ar bob achlysur.

Mae’r adroddiad yn dilyn arolwg tebyg i ddefnydd o’r Gymraeg yn nhrefniadau Etholiad Cyffredinol 2015, oedd hefyd yn dangos bod llai o wybodaeth ar gael yn y Gymraeg nag yn y Saesneg.

“Anfoddhaol”

“Mae lefel yr ymholiadau a’r cwynion yr ydw i wedi eu derbyn gan y cyhoedd am wasanaethau Cymraeg mewn trefniadau etholiad yn brawf ei fod yn rhywbeth mae pobl yn teimlo’n gryf yn ei gylch,” meddai Meri Huws.

“Wrth arolygu trefniadau Etholiad Cyffredinol 2015, fe ddaeth hi’n amlwg bod cryn wendidau yn y ffordd roedd y Gymraeg yn cael ei thrin.

“Mae’n galonogol bod y sefyllfa wedi gwella erbyn 2016, a bod yr holl ffurflenni’n bodoli yn y Gymraeg. Ond mae hi’n anfoddhaol bod disgwyl i rywun ddyfalbarhau a gwneud ymdrech arbennig er mwyn cael mynediad at y ffurflenni a gwybodaeth yn Gymraeg.”

“Drwy gyhoeddi’r adroddiad nawr, disgwyliaf y bydd swyddogion cofrestru etholiadol yn talu sylw i’r argymhellion a gwella’r ddarpariaeth cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai.”