Suzy Davies AC
Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol yn bwriadu cynnig mesur newydd heddiw fyddai’n ei gwneud hi’n orfodol i ddisgyblion ysgol Cymru gael hyfforddiant ar sgiliau achub bywyd.

Mae Suzy Davies AC wedi penderfynu cyflwyno’r mesur mewn ymateb i ystadegau sy’n nodi bod 8,000 o bobol y flwyddyn yn diodde’ o ataliad ar y galon yng Nghymru.

Yn ogystal, yn ôl elusen Arrhythmia Alliance, dim ond 3% o bobol sy’n diodde’ ataliad ar y galon yng Nghymru sy’n debygol o oroesi, o gymharu â 50% mewn rhannau eraill o Ewrop.

Am hynny, mae’r Aelod Cynulliad am ei gwneud hi’n orfodol i bobol ifanc gael ei hyfforddi â sgiliau achub bywyd fel rhan o’u haddysg.

“Meithrin hyder”

Mae tua 1,939 o ddiffibrilwyr wedi cael eu dosbarthu ar draws Cymru erbyn hyn, ond mae Suzy Davies yn dadlau nad oes gan ddigon o bobol yr hyder i’w defnyddio.

“Wrth gyflwyno’r Mesur hwn, rwy’n gobeithio dwyn perswâd ar fy nghyd Aelodau Cynulliad fod cyfle go iawn fan hyn i feithrin cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd hyderus ar draws Cymru a all helpu i gefnogi gwaith y gwasanaethau brys ac arbed teuluoedd rhag torcalon.”