Celsa Steel, Caerdydd (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi heddiw eu bod am fuddsoddi £3m yn y diwydiant dur yng Nghymru – gan ddiogelu 550 o swyddi.

Mae’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn pedwar cwmni ar draws Cymru, sef Code Serve ym Mryn-mawr, Dyfed Steels yn Llanelli, Express Reinforcements yng Nghastell-nedd a Celsa Steel yng Nghaerdydd.

“Yn wir, y sector dur yw un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru ac mae’n bleser cael cyhoeddi ein bod yn helpu pedwar busnes sydd rhyngddynt yn buddsoddi £8.75m mewn cyfleusterau newydd, offer newydd, prosiectau ehangu a gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Mae croeso bob tro i swyddi newydd wrth gwrs. Ond ar adeg pan fo’r sector yn wynebu amodau masnachu hynod anodd a chystadleuaeth lem o bob rhan o’r byd, mae diogelu swyddi hyd yn oed yn bwysicach nag erioed o safbwynt cynaliadwyedd y sector ac i dwf yr economi,” ychwanegodd.

Swyddi

Mae’r buddsoddiad yn golygu y bydd 90 o swyddi newydd a 477 yn cael eu diogelu yng Nghaerdydd a’r cymoedd.

Bydd 30 o swyddi newydd a 170 yn cael eu diogelu gyda Dyfed Steels yn Sir Gaerfyrddin, a thua 50 o swyddi newydd gyda’r cwmni Code Serve.