Canolfan Yr Egin (Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant)
Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud y bydd penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd y mis o ran ariannu prosiect Yr Egin.

Fe ddaeth hi i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod grŵp o ymgynghorwyr wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad oes “sail” i roi arian cyhoeddus i’r adeilad fyddai’n gartref i bencadlys S4C yng Nghaerfyrddin.

Yn ogystal â chartref i’r Sianel Gymraeg, byddai adeilad Yr Egin yn gartref i sawl cwmni creadigol arall, yn ôl Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Ken Skates wrth y Cynulliad heddiw y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y mater erbyn diwedd mis Chwefror, wedi i Brifysgol y Drindod Dewi Sant ofyn am £6m gan y llywodraeth.

‘Achos busnes’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y “trafodaethau’n parhau.”

“Mae dal yn wir y gallai unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru gael ei ystyried yn unig os bod achos busnes manwl a chymhellol yn cael ei ddarparu sy’n mynegi’n llawn ac yn rhoi tystiolaeth ar fanteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad ac yn arddangos pam fod angen ymyrraeth gan y sector cyhoeddus i’w gyflawni.”

Cefndir

Yn ogystal â chartref i’r Sianel Gymraeg, byddai adeilad Yr Egin yn gartref i sawl cwmni creadigol arall, ac i fod i agor y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth S4C nodi y byddai symud eu pencadlys i Gaerfyrddin yn cael ei wneud ar gost niwtral er bod rhaid iddyn nhw dalu gwerth £3 miliwn o rent ‘rhag-blaen’ i’r Brifysgol.

Mae datganiad gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn nodi:

“Fe fydd Yr Egin yn sefydlu cwmnïau newydd a swyddi dwyieithog newydd. Bydd y rhain yn ychwanegol at swyddi o fewn S4C.

“Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno gwybodaeth i’r Llywodraeth sy’n dangos sut gall menter o’r fath fod yn gatalydd yn y rhanbarth ac mae’n edrych ymlaen at drafodaeth bellach ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch y fenter hon.”