Mae Aelod Seneddol yn galw ar Lywodraeth San Steffan i adolygu’r isafswm oedran y gall person ymuno â’r lluoedd arfog.

Bydd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, yn dadlau bod angen ystyried codi’r oedran o 16 oed i 18.

Y Deyrnas Unedig yw’r unig aelod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, NATO a’r Undeb Ewropeaidd sy’n recriwtio pobol mor ifanc.

Yn ôl adroddiad Medact, mae recriwtiaid ifanc yn fwy agored i anhwylder straen wedi trawma (PTSD), cam-drin alcohol, hunan-niweidio, hunanladdiad a marwolaethau ac anafiadau yn ystod gyrfa yn y lluoedd arfog o gymharu â recriwtiaid hŷn.

Mae nifer o gyrff rhyngwladol wedi condemnio’r Deyrnas Unedig am ei pholisi o recriwtio dynion dan 18 oed, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac UNICEF.

“Poeni am les bobol ifanc”

“Rwyf wedi galw’r ddadl hon oherwydd fy mod yn poeni am les bobol ifanc sy’n ymuno â’r lluoedd arfog. Nid yw hyn yn arfer safonol, nid yw’n rheidrwydd, ac nid yw’n bolisi a rennir gan ein cynghreiriaid milwrol a chyfoedion,” meddai Liz Saville Roberts.

“Dengys ymchwil fod recriwtiaid ifanc yn fwy agored nag naill ai eu cyfoedion sifil neu recriwtiaid hŷn, i ddioddef straen wedi trawma, camddefnyddio alcohol a hyd yn oed cyflawni hunanladdiad. Rhaid i’r DU, ar fyrder, adolygu polisi ymrestru plant.”