Llun: PA
Cafodd gwelliant i sicrhau na fyddai unrhyw effaith ar gyllid Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ei wrthod mewn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr.
Roedd y gwelliant wedi’i gynnig gan Aelodau Seneddol Plaid Cymru ac yn cynnwys rheidrwydd ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru yn nodi beth fyddai effaith Brexit ar gyllid Cymru.
Byddai’r adroddiad yn ei dro yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i adolygu’r addewid o barhau â’r cyllid.
Ond fe gafodd y gwelliant ei drechu o 330 pleidlais i 267 yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr, sef mwyafrif o 63.
Mae disgwyl i’r trafodaethau am welliannau’r Mesur fydd yn arwain at danio Erthygl 50 barhau am dri diwrnod yn Nhŷ’r Cyffredin.
‘Lladd swyddi’
Mae Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi cyhuddo’r Mesur o “beidio â thalu sylw” i addewidion a wnaed cyn y refferendwm y llynedd.
Aeth yn ei flaen i ddweud y bydd y Mesur yn “ddeddf sy’n lladd y mwyaf o swyddi yn hanes economaidd Cymru.”
Ychwanegodd am y Mesur: “efallai ei fod e’n fyr, ond mae’n llawn, llawn o Brexit sy’n talu dim sylw i’r addewidion a wnaed yn ystod yr ymgyrch i adael.”
‘Parhau i frwydro’
Mewn ymateb dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis, y byddai’r blaid yn parhau i frwydro am ddiogelu buddiannau Cymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Neithiwr yn San Steffan, fe gyflwynodd AS Plaid Cymru welliannau i Fesur Erthygl 50 i sicrhau na fyddai Cymru yn colli cyllid unwaith rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth yr un rhai wnaeth addo na fyddai Cymru’n colli ceiniog o gyllid…. bleidleisio yn erbyn y gwelliant i’w dal nhw i gyfrif am eu haddewidion.”
Dywedodd y byddan nhw’n glynu at y Papur Gwyn wnaethon nhw ei lunio ar y cyd â Llafur.
“Fe fyddwn ni’n parhau i ddadlau am gyfranogaeth o’r farchnad sengl, i ddiogelu swyddi a gwasanaethau cyhoeddus.”