Mae ansicrwydd ariannol S4C yn dangos bod rhaid datganoli darlledu i Gymru, yn ôl ymgyrchwyr iaith.
Dyna fydd neges dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith wrth ddadlau gerbron Aelodau Seneddol yn San Steffan dydd Mawrth, 7 Chwefror.
Mae disgwyl i gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf ddadlau “nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobl Cymru” a bod Aelodau Seneddol Cymru yn anhapus â’r drefn bresennol.
Meddai Heledd Gwyndaf: “Pa wleidydd rhesymol all gyfiawnhau rhagor o doriadau i S4C? Mae hyd yn oed rhan helaeth Ceidwadwyr Cymru yn gweld na allan nhw weithredu’n groes i addewid maniffesto clir i ddiogelu cyllid y sianel. Mae’n glir o’n sgyrsiau gydag Aelodau Seneddol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys Swyddfa Cymru, bod y mwyafrif yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i dorri ymhellach.
“Ond eto, mae gyda ni Weinidogion yn yr Adran Ddiwylliant yn Llundain yn gwneud y penderfyniadau, er, nad oes ots gyda nhw am Gymru, heb sôn am y Gymraeg. Dylai penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru – mae’n bryd datganoli darlledu.”
Toriadau
Daw’r cyfarfod yn sgil dadl yn San Steffan fis diwethaf lle bu cyhoeddiad y gallai fod toriad pellach o dros £700,000 i grant y sianel o fis Ebrill ymlaen.
Mae S4C wedi dioddef toriadau o 40% i’w gyllideb ers 2010 ac mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gynnal adolygiad o’r sianel eleni.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb, wedi dweud wrthyn nhw y bydd trafod datganoli yn “anochel” yn rhan o’r trafodaethau.
Cyfryngau yng Nghymru
Wrth sôn am y cynigion ym mhapur trafod y mudiad i ddatganoli darlledu er mwyn galluogi sefydlu tair gorsaf radio a thair sianel deledu Gymraeg, ychwanegodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith: “Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn gyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru.
“Mae darlledu wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio’r grymoedd er lles ieithoedd lleiafrifol. Mae gyda ni gyfle drwy’r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd i’r cyfryngau yng Nghymru.”