Mae un o gynrychiolwyr Pwyllgor Cynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r syniad o sefydlu Corff Cynhyrchwyr Llaeth i ffermwyr Cymru.

Fe fyddai’r corff hwn, sy’n cael ei adnabod fel DPO, yn gyfle i ffermwyr llaeth uno i gryfhau eu hachos wrth fargeinio ar brisiau a thelerau gyda phroseswyr llaeth.

Mae cyrff tebyg eisoes yn bodoli yn Lloegr a’r Alban, ac yn ôl Tom Jones ar ran Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), “fe allai’r defnydd o DPO yng Nghymru gryfhau safle cynhyrchwyr llaeth o fewn y gadwyn gyflenwi wrth ganiatáu pŵer bargeinio ar y cyd.

“Fel diwydiant, mae angen inni symud i ffwrdd o’r anwadalwch difrifol ym mhrisiau llaeth sydd wedi achosi caledi i ffermwyr llaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.

‘Cost sefydlu’r corff’

Er hyn, roedd yn cydnabod fod peth ansicrwydd ynglŷn â sefydlu corff o’r fath gan ddweud, “does dim rheidrwydd cyfreithiol ar broseswyr i dderbyn DPO ac fe allai cost sefydlu corff o’r fath droi rhai cynhyrchwyr i ffwrdd rhag ymuno,” meddai Tom Jones.

Mae llefarydd ar NFU Cymru hefyd wedi croesawu’r syniad, ac mae disgwyl i’r mater gael ei drafod ymhellach mewn cyfres newydd ar BBC One Wales heno sy’n ymchwilio i’r diwydiant llaeth, sef Milk Man am 8.30 nos Lun, Chwefror 6, gyda Gareth Wyn Jones.