Peter Colwell, a gafodd ei saethu yn Llanbedrog (Llun: o'i gyfrif Facebook)
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r llanc 18 oed o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr gafodd ei saethu i farwolaeth yn Llanbedrog ger Pwllheli yn gynnar fore Sul.

Bu farw Peter Robert Colwell ar ôl cael ei saethu mewn cerbyd ym maes parcio tafarn y Llong, Llanbedrog tua 12.15 bore dydd Sul, Chwefror 5.

Daeth swyddogion o hyd i wn haels yn y lleoliad ac mae pedwar dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach gael eu cynnal.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod y pedwar dyn a’r dyn a fu farw yn ffrindiau, ac nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall.

Mae teulu Peter Colwell yn cael cymorth gan swyddogion arbennig ac mae’r Crwner wedi’i hysbysu gyda disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal heddiw.

‘Mawr ei barch’

Yn ôl pennaeth Ysgol Botwnnog, Dylan Minnice, roedd Peter Colwell yn ddisgybl “tawel, cyfeillgar oedd bob amser yn rhoi o’i orau.”

“Cafodd ei ddiwydrwydd ei wobrwyo pan enillodd wobr myfyriwr gorau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 yng Ngholeg Glynllifon yn ystod ei flwyddyn olaf yma yn Ysgol Botwnnog. Gyrrwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i ffrindiau,” ychwanegodd.

‘Mawr ei barch’ 

Bu hefyd yn astudio cwrs peirianneg yng Ngholeg Glynllifon, ac mae Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor, Aled Jones-Griffith, wedi talu teyrnged iddo ar ran y coleg:

“Tristwch mawr i staff a myfyrwyr ar safle Glynllifon oedd clywed am farwolaeth drist Peter. Roedd yn fyfyriwr distaw, gweithgar a chydwybodol ac yn fawr ei barch gan bawb o’i gydnabod.

“Rydym, fel coleg, yn cydymdeimlo’n fawr iawn â’i deulu a’i ffrindiau yn y cyfnod anodd yma,” meddai.

‘Digwyddiad trasig’

Dywedodd Ditectif Uwch-Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Iestyn Davies: “Er bod hwn yn ddigwyddiad trasig sy’n cael ei drin fel ymchwiliad  i lofruddiaeth, rydym yn cadw meddwl agored  o ran amgylchiadau’r digwyddiad.

“Mae ein harbenigwyr yn ceisio sefydlu yn union beth a ddigwyddodd a sut cafodd y gwn haels ei saethu, ond mi hoffwn sicrhau’r gymuned leol mai digwyddiad anarferol iawn oedd hwn yn ymwneud â phobol leol a ’does yna ddim bygythiad ehangach i’r cyhoedd.

“Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae’r gwn wedi cael ei ddarganfod.  Byddwn yn ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron ymhen amser ynghylch unrhyw gyhuddiadau.”

Mae’r Heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V016717.