Llys y Goron Caerdydd
Yn Llys y Goron Caerdydd, mae dyn 24 oed wedi gwadu iddo lofruddio ei gariad yn ei fflat.

Mae  Jordan Matthews wedi’i gyhuddo o lofruddio Xixi Bi yn ei chartref yn Llandaf ac mae’r erlyniad yn honni ei bod wedi marw ar ôl “ymosodiad ciaidd” arni.

Mae Jordan Matthews o Ffordd Elai, Caerdydd wedi cyfaddef cyhuddiad o ddynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth Xixi Bi ond yn gwadu ei llofruddio.

Clywodd y llys bod Jordan Matthews  wedi ffonio’r gwasanaethau brys am 8.30yb ar 19 Awst y llynedd gan ddweud ei fod “wedi bod yn gas iawn, iawn” tuag at Xixi Bi ar ôl iddyn nhw gael ffrae a’i bod hi yn cael trafferth anadlu. Dywedodd ei fod wedi gwneud CPR arni a’i bod yn ymateb.

Fe gyrhaeddodd parafeddygon o fewn munudau ond nid oedd Xixi Bi yn anadlu. Cafodd ei rhuthro i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle ceisiodd meddygon ei hachub ond bu farw am 9.30yb.

Clywodd y llys bod y ddau wedi dechrau byw gyda’i gilydd tua mis Ebrill 2015.

Roedd Xixi Bi, a gafodd ei geni yn China, a’i haddysgu yn y DU ers yn 15 oed, yn gobeithio dychwelyd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i ail-wneud gradd mewn busnes adeg ei marwolaeth.

Post mortem

Clywodd y llys bod archwiliad post mortem wedi dangos bod Xixi Bi wedi dioddef cleisiau i’w phen, ei hwyneb, ei breichiau, coesau a’i brest a oedd yn awgrymu ei bod wedi’i tharo gan ddwrn, pen-glin neu droed. Roedd hi hefyd wedi torri ei gen a’i hasennau.

Bu farw oherwydd cymhlethdodau yn sgil ei hanafiadau niferus.

Clywodd y llys nad dyma’r tro cyntaf i Jordan Matthews ymosod ar ei gariad a bod cymdogion wedi eu clywed yn ffraeo nifer o weithiau.

Mae’r achos yn parhau.