Emrys Wynne a Menna Jones gyda’r ddeiseb o 1,565 o enwau yn protestio yn erbyn cau cangen Rhuthun o fanc y NatWest (Llun: Marc Jones)
Mae dros 1,500 wedi llofnodi deiseb i gadw cangen NatWest yn Rhuthun ar agor.

Mae’r ddeiseb, a gafodd ei threfnu gan gangen leol Plaid Cymru, wedi ei llofnodi gan 1,565 o bobol sy’n  galw ar fanc NatWest i ailystyried eu penderfyniad i gau’r gangen yn y dref.

Cyhoeddodd NatWest ym mis Rhagfyr y byddai naw cangen yng ngogledd Cymru yn cael eu cau: ym Mhrestatyn, Rhuthun, Conwy, Treffynnon, Porthmadog, Caernarfon, Porthaethwy, Amlwch a Chaergybi.

Gyda changhennau Corwen a Llangollen wedi cau yn barod mae disgwyl bydd cangen Rhuthun yn cau ar Fehefin 13.

Mae’r ddeiseb yn rhybuddio y gall adeilad y banc sydd ar sgwâr hanesyddol y dref ddirywio os caiff y banc ei gau, ac mae NatWest wedi’i gyhuddo o “anwybyddu cymunedau” sy’n ddibynnol ar y gangen.

Sgil effaith i’r dref

“Ein pryder ni yw, os bydd ein tref yn colli ei banciau, yna bydd yn rhaid i gwsmeriaid a busnesau bach sy’n dibynnu ar dalu arian i mewn i’r banc deithio ymhellach o lawer,” meddai’r cynghorydd tref Plaid Cymru a’r cyn-Faer, Emrys Wynne.

“Bydd sgil-effaith i’r dref ac y mae hefyd yn codi cwestiynau ynghylch dyfodol y ddau fanc arall yn y tymor hir. Rydym yn teimlo’n gryf am gadw’r gwasanaeth pwysig a’r adeilad eiconig hwn ar agor i’r cyhoedd.”

Bancio ar-lein

Mae NatWest wedi ymateb mewn datganiad gan ddweud: “mae’r ffordd mae pobol yn bancio gyda ni wedi newid tipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Rhwng 2010 a 2015 mae bancio ar ffonau symudol ac ar y we wedi cynyddu 400%.

“O ganlyniad i’r newid yma rydym wedi gweld bancio yn Rhuthun yn cwympo 11% ers 2011 ac mae 54% o gwsmeriaid y gangen yn dewis defnyddio eu ffonau symudol a bancio ar y we er mwyn bancio o ddydd i ddydd.”

Mae’r ddeiseb wedi ei chyflwyno i reolwr y gangen, ac mae disgwyl y bydd yn cael ei danfon at brif weithredwr y cwmni.