Peter Colwell, (Llun: o'i gyfrif Facebook)
Mae’r llanc gafodd ei saethu’n farw mewn pentref yng Ngwynedd dros y penwythnos wedi cael ei enwi’n lleol fel Peter Colwell.

Yn ôl adroddiadau, roedd y llanc 18 oed yn dod o Gapel Uchaf ger Clynnog Fawr, ac mae ei deulu yn ogystal â’r crwner wedi cael eu hysbysu gydag ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw.

Fe fu farw mewn cerbyd ym maes parcio tafarn y Llong, Llanbedrog ger Pwllheli ychydig wedi hanner nos fore Sul.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae pedwar o ddynion wedi cael eu harestio yn sgil y digwyddiad, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae’r Uwch-arolygydd, Nigel Harrison, wedi cadarnhau fod hwn yn “ddigwyddiad ynysig yn ymwneud â phobol leol ac nad oes bygythiad ehangach i’r cyhoedd.”

“Gweithgar a chydwybodol”

Fe fu Peter Colwell yn astudio cwrs peirianneg yng Ngholeg Glynllifon, ac mae Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor, Aled Jones-Griffith, wedi talu teyrnged iddo ar ran y coleg gan ddweud:

“Tristwch mawr i staff a myfyrwyr ar safle Glynllifon oedd clywed am farwolaeth drist Peter. Roedd yn fyfyriwr distaw, gweithgar a chydwybodol ac yn fawr ei barch gan bawb o’i gydnabod.

“Rydym, fel coleg, yn cydymdeimlo’n fawr iawn â’i deulu a’i ffrindiau yn y cyfnod anodd yma.”