Eluned Morgan AC (Llun: Cynulliad CCA 2.0)
Mae angen sefydlu cynllun i gefnogi economi wledig Cymru yn wyneb yr heriau newydd a gynigia Brexit.

Dyna gasgliad Aelod Cynulliad Llafur Canol a Gorllewin Cymru wedi iddi gyfarfod â grŵp o arweinwyr busnes o’r economi wledig.

Yn ôl y Farwnes Eluned Morgan, mae peryg y bydd economi wledig Cymru yn dioddef yn waeth o ganlyniad i Brexit na rhannau eraill o Gymru wrth iddyn nhw golli cyllid Ewropeaidd.

Ac mae’r grŵp yn galw am sefydlu cynllun penodedig i Gymru wledig, gan ddadlau fod cynlluniau tebyg eisoes yn cael eu gweithredu gyda chynlluniau Dinas Ranbarth rhai dinasoedd.

Heriau ‘niferus’

Mae datganiad ar y cyd yn nodi; “tra gall model y Ddinas Ranbarth weithio mewn rhannau o Gymru, dyw e ddim yn fodel sy’n bwrpasol nac yn addas i ardaloedd eang o Gymru wledig.”

Maent yn nodi fod heriau “amrywiol a niferus” i gefn gwlad Cymru, gan gynnwys: “cyfraddau isel cynhyrchiant, swyddi cyflog isel, sylfaen sgiliau isel, trafnidiaeth a gwendidau seilwaith TG, diffyg tai fforddiadwy a phoblogaeth sy’n heneiddio.”

Maen nhw’n dweud fod angen mynd i’r afael â hynny gan wella’r cyfleoedd a gynigia twristiaeth hefyd.

Dywedodd Eluned Morgan ei bod wedi trafod y mater gyda’r Prif Weinidog, Ysgrifennydd yr Economi ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac mae disgwyl y byddan nhw’n cyflwyno’r cynllun ym mis Ebrill.

Effaith ‘dramatig’

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod ardaloedd gwledig Cymru yn cael cefnogaeth gyllidol sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd effaith gadael yr undeb ar yr ardaloedd hyn yn “ddramatig ac yn dod i’r amlwg yn gyflym.”

“Mae’n hanfodol fod yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig yn parhau i dderbyn buddsoddiad pwrpasol ac ychwanegol,” meddai’r llefarydd.

“Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud yn dda ar addewidion a wnaed yn ystod yr ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli arian o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE,” ychwanegodd.